£190 ar gyfcr pob darpar fam

English |

Gwybodaeth i ddarpar famau

 

O fis Ebrill 2009 ymlaen, gallwch hawlio un taliad di-dreth gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi os ydych yn ddarpar fam sy’n feichiog ers o leiaf 25 wythnos. Enw’r taliad yw’r ‘Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd’, a'i fwriad yw eich helpu i baratoi at enedigaeth eich babi.

Dim ond os disgwylir i'ch babi gael ei eni ar 6 Ebrill 2009 neu ar ôl hynny y cewch wneud hawliad.

Pwy all gael y Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd?

Gallwch gael y grant os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn feichiog ers 25 wythnos neu ragor
  • disgwylir i’ch babi gael ei eni ar 6 Ebrill 2009 neu ar ôl hynny
  • rydych wedi cael cyngor iechyd gan fydwraig neu feddyg

Mae’n bosib na chewch y grant:

  • os ydych yn ddarostyngedig i reolau mewnfudo neu
  • os nad ydych yn y DU, yn byw fel arfer yn y DU neu â hawl i breswylio yn y DU

Faint gewch chi?

Gyda’r grant hwn, ceir un taliad o £190 ar gyfer pob beichiogrwydd. Ni fydd yn effeithio ar eich credydau treth nac ar unrhyw fudd-daliadau eraill. Bydd pawb yn cael yr un faint – ni fydd neb yn holi am eich incwm.

Sut mae gwneud cais?

Gofynnwch i’ch bydwraig neu i’ch meddyg am ffurflen hawlio unrhyw dro ar ôl 1 Ionawr 2009 – cyn belled â’ch bod yn feichiog ers o leiaf 25 wythnos ac y disgwylir i’ch babi gael ei eni ar 6 Ebrill 2009 neu ar ôl hynny. Mae’n rhaid i’ch bydwraig neu’ch meddyg lenwi'r rhan o'r ffurflen sy'n berthnasol iddyn nhw a'i llofnodi cyn ei rhoi i chi.

Bydd angen i chi sicrhau bod eich ffurflen hawlio’n cyrraedd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddim mwy na 31 diwrnod ar ôl i’ch bydwraig neu’ch meddyg lofnodi’r ffurflen – fel arall, efallai na fydd yn bosib i chi fanteisio ar y grant.

Gallwch gael neges testun neu e-bost atgoffa am ddim er mwyn eich helpu i gofio hawlio os nad ydych yn feichiog ers 25 wythnos eto.

Cofrestru ar gyfer gwasanaeth atgoffa’r Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd

Sut mae’r Grant yn cael ei dalu?

Bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn talu’r grant yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu i’ch cyfrif cymdeithas adeiladu unrhyw adeg ar ôl Ebrill 2009. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych gyfrif – bydd unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu yn barod i’ch helpu i agor un.

Additional links

Peidiwch ag anghofio hawlio
Nodi’r safle hwn

Ychwanegwch y safle hwn at eich nodau tudalen cymdeithasol, gan gynnwys Del.icio.us, Digg, Reddit a mwy