Health in Pregnancy Grant - Information for Healthcare Professionals

English |

Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd

Gwybodaeth i Weithwyr Iechyd Proffesiynol

O fis Ebrill 2009, bydd gan bron pob merch feichiog hawl i Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd, a weinyddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae'r Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd yn daliad sydd ar gael i ferched beichiog rhwng 25ain wythnos eu beichiogrwydd a'r dyddiad y disgwylir i'r babi gael ei eni. Nid yw'r grant yn dibynnu ar incwm y cartref.

Disgwylir iddo fod yn daliad di-dreth o £190, a delir yn uniongyrchol i'r ferch feichiog gyda'r nod o ddarparu cymorth ariannol:

  • i gefnogi ei hiechyd a'i lles cyffredinol yn ystod ychydig fisoedd olaf ei beichiogrwydd
  • i dalu am y costau ehangach yn y cyfnod cyn yr enedigaeth

Bydd yn rhaid i fydwraig neu feddyg lofnodi'r ffurflen hawlio, ac felly bydd ganddynt swyddogaeth allweddol o ran sicrhau bod merched yn cael cyfle i gael gafael ar y grant. Bydd ffurflenni'n cael eu rhoi i feddygon a bydwragedd cofrestredig. Fodd bynnag, mae'n ddigon posib y bydd gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, megis ymwelwyr iechyd a nyrsys, yn cael eu holi am y grant, felly mae'n bwysig bod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn deall sut y mae'n gweithio.

Bydd pecyn adnoddau ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol yn nes ymlaen eleni, a bydd hwnnw'n darparu gwybodaeth lawn am bob agwedd ar y Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y gellir ei hawlio, yn ogystal â sut mae ateb cwestiynau y gallai menywod beichiog eu gofyn am y grant.

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf am y grant ac adnoddau i weithwyr iechyd proffesiynol ar gael ar y wefan hon dros y misoedd nesaf.

Os ydych chi'n mynd i fod yn fam, ceir rhagor o wybodaeth am y grant o fis Ionawr 2009 ymlaen.

Additional links

Darparwyd gan